Neidio i'r cynnwys

Dyfrlliw

Oddi ar Wicipedia
Dyfrlliw
Enghraifft o:techneg peintio, deunydd peintio Edit this on Wikidata
Matharlunio Edit this on Wikidata
Deunyddpigment, toddiad o gwm Arabaidd, paent dyfrlliw Edit this on Wikidata
Cynnyrchpeintiad dyfrlliw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pigment sy'n gallu cael eu hydoddi mewn dŵr i'w defnyddio fel paent yw dyfrlliw (Saesneg: watercolour; Ffrangeg: aquarelle).[1] Fel arfer, rhoddir paent dyfrlliw ar bapur. Yn draddodiadol, mae artistiaid wedi defnyddio papur gwyn, trwm wedi'i wneud o gotwm nad yw'n ystumio pan fydd yn wlyb. Nid yw dyfrlliwiau go iawn yn cynnwys pigment gwyn, felly mae unrhyw wyn mewn llun yn ganlyniad i adael y papur heb ei beintio. Hefyd, mae angen gweithio'r paent o liwiau golau i liwiau tywyll, yn hytrach na'r ffordd arall. Yn hyn o beth mae'n gwbl wahanol i baent olew, lle gellir gosod pigmentau golau ar ben rhai tywyll heb drafferth.

Peintiad tirlun dyfrlliw clasurol (1852), wedi'i greu'n gyflym yn yr awyr agored. Penmaen Bach gan David Cox (1809–1885).
Lle mae llun yn galw am amlinelliadau manwl, mae dyfrlliw yn aml yn cael ei gyfuno ag inc, fel yn yr astudiaeth hon o Farchnad Pwllheli, 8 Awst 1866, gan Frances Elizabeth Wynne (1836–1907)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Y Geiriadur Celf, gol. Mark White a Dafydd Jones (Tresaith: Dalen, 2011), t.149–9

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]