Ffilm wyddonias
![]() | |
Enghraifft o: | genre mewn ffilm, art genre by arts form ![]() |
---|---|
Math | gwyddonias, ffilm ffuglen ddyfaliadol ![]() |
![]() |
Mae ffilm wyddonias (neu ffilm ffuglen wyddonol) yn genre ffilm sydd wedi bodoli ers dyddiau cynharaf sinema.[1] Mae'r naratif yn cael ei sbarduno gan bresenoldeb datblygiadau gwyddonol a thechnolegol dychmygol neu ddamcaniaethol. Mae'n debyg mai'r themâu mwyaf cyfarwydd yw teithio i'r gofod, bydoedd estron, ffurfiau bywyd allfydol a ffurfiau bywyd artiffisial. Mae themâu nodweddiadol eraill yn cynnwys teithio trwy amser, bydysawdau paralel, canfyddiad allsynhwyraidd, rheoli meddwl, biobeirianneg, a thechnolegau cyfrifiadurol datblygedig. Yn aml, mae'r genre ffilm hwn wedi'i osod mewn cyd-destun sy'n gysylltiedig â gweledigaeth o'r dyfodol, a hynny'n ddyfodol sy'n aml yn cael ei gyflwyno fel dystopiaidd neu fwy neu lai annymunol. Defnyddiwyd ffilmiau ffuglen wyddonol yn aml i ganolbwyntio ar faterion gwleidyddol neu gymdeithasol, ac i archwilio materion athronyddol sy'n ymwneud â chyflwr dynol.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Creed, Barbara (2009). Darwin's Screens: Evolutionary Aesthetics, Time and Sexual Display in the Cinema (yn Saesneg). Carlton, Victoria: Gwasg Prifysgol Melbourne University Publishing. t. 58. ISBN 978-0-522-85258-5.
- ↑ Cornils, Ingo (Medi 1995). Jeffrey Morrison and Florian Krobb (gol.). Text Into Image, Image Into Text: Proceedings of the Interdisciplinary Bicentenary Conference (yn Saesneg). St. Patrick's College, Maynooth: Rodopi. tt. 287–296. ISBN 90-420-0153-4.