Hermann von Helmholtz
Hermann von Helmholtz | |
---|---|
![]() Portread o Hermann von Helmholtz gan Ludwig Knaus (1881). | |
Ganwyd | Hermann Ludwig Ferdinand Helmholtz ![]() 31 Awst 1821 ![]() Potsdam ![]() |
Bu farw | 8 Medi 1894 ![]() Charlottenburg, Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, ophthalmolegydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd, seicolegydd, ffisiolegydd, bioffisegwr, athronydd, anatomydd, naturiaethydd, meddyg yn y fyddin, patholegydd ![]() |
Swydd | cadeirydd, rheithor ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | cadwraeth egni, Helmholtz pitch notation, Helmholtz resonance, Helmholtz equation, Kelvin–Helmholtz mechanism, Helmholtz decomposition, Helmholtz free energy, Gibbs–Helmholtz equation, Helmholtz coil, Young–Helmholtz theory, Kelvin–Helmholtz instability, Helmholtz's theorems, specific Helmholtz energy, molar Helmholtz energy, Helmholtz–Kohlrausch effect ![]() |
Tad | Ferdinand Helmholtz ![]() |
Priod | Anna von Helmholtz, Olga von Helmholtz ![]() |
Plant | Richard von Helmholtz, Robert von Helmholtz, Ellen von Siemens-Helmholtz, Friedrich Julius von Helmholtz ![]() |
Gwobr/au | Medal Copley, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Matteucci, Medal Albert, Croonian Medal and Lecture, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Commandeur de la Légion d'honneur ![]() |
Gwyddonydd ac athronydd o'r Almaen oedd Hermann Ludwig Ferdinand von Helmholtz (31 Awst 1821 – 8 Medi 1894).[1] Arbenigodd ym meysydd ffiseg a ffisioleg, ond cyfranodd hefyd at ddatblygiadau yn acwsteg, opteg, mathemateg, meteoroleg, ac athroniaeth.
Fel anatomegydd, astudiodd ffisioleg y nerfau a llwyddodd i fesur buanedd ysgogiad nerfol gan ddefnyddio galfanomedr. Ar sail ei arbrofion ar fetabolaeth y cyhyrau, darganfyddodd egwyddor cadwraeth egni a'i gosod yn ddeddf fathemategol ym 1847. Arloesoedd gysyniad egni rhydd, a chyfranodd at ddatblygiadau yn thermodynameg ac electrodynameg. Astudiodd hefyd mudiant fortecs mewn hylifau. Ymhelaethodd ar ddamcaniaeth Thomas Young ar olwg a lliw, eglurodd mecanwaith ymgymhwysiad y lens, ym 1851 dyfeisiodd yr offthalmosgop, a chyhoeddodd draethawd estynedig ar opteg ffisiolegol ym 1867. Roedd hefyd yn arbenigwr ar acwsteg, yn enwedig ansawdd tôn.
Addysgodd ffiseg ym Mhrifysgol Berlin, a gweithiodd yn swydd cyfarwyddwr yr Athrofa Ffisegol-Dechnegol yn Charlottenburg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Hermann von Helmholtz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Hydref 2023.